Y Cyfarfod Llawn |
Meeting
date: |
|
|
|
||
Meeting
time: |
||
|
||
|
||
|
||
|
Votes and Proceedings (17) v3 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
14.27
Pwynt o Drefn
Cododd Andrew RT Davies bwynt o drefn ynghylch Aelodau yn camddyfynnu sylwadau a wnaed gan Aelodau eraill yn y cyfrynfau. Dyfarnodd y Llywydd fod pob Aelod yn gyfrifol am sicrhau cywirdeb eu cyfraniadau a gofynnodd i’r Aelod dan sylw i ddarllen y Cofnod ac i ailystyried ei sylwadau.
14.28
Cyhoeddiad gan y Llywydd
Cyhoeddodd y Llywydd y bydd balot yn cael ei chynnal ar 19 Hydref 2011, o dan Reol Sefydlog 26.87, i benderfynu ar enw Aelod Cynulliad a gaiff, os yw’r Cynulliad yn cytuno ar hynny, gyflwyno ei Fil ei hun.
14.29
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
14.39
3.
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
15.33
4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Flaenau Gwent
15.56
5. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty: Cydraddoldebau
16.35
6. Dadl ar Ddiwygio Gwasanaethau Cyhoeddus
NDM4807 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’i hagenda ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu “Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’i hagenda”
a rhoi yn ei le
“Yn nodi agenda Llywodraeth Cymru”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant
1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth ddiffyg tryloywder cyhoeddiadau blaenorol Llywodraeth Cymru am ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant
2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am ddadansoddiad wedi’i gostio’n llawn o agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
57 |
0 |
0 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant
3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus mewn modd sy’n dod â’r trydydd sector annibynnol a’r sector cyhoeddus ynghyd, gyda’r dinesydd a’r gymuned yn y canol, gan ymateb i anghenion y cyhoedd a gan leihau'r galw ar wasanaethau eraill drwy ddull gweithredu sy'n edrych ar y gwasanaeth cyfan a chyd-gynhyrchu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
57 |
0 |
0 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant
4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus gael ffocws clir ar leihau’r bwlch gwariant ar ysgolion rhwng Cymru a Lloegr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
11 |
0 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant
5.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder ddull gweithredu anghyson Llywodraeth Cymru o ran cydweithio wrth gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant
6.
Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus wedi cael ei gwneud yn glir ac yn credu y dylai ganolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach nag ar y broses o ddiwygio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant
7.
Gwelliant 8 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau cyllid teg er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
57 |
0 |
0 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4807 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’i hagenda ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus.
Yn galw am ddadansoddiad wedi’i gostio’n llawn o agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus mewn modd sy’n dod â’r trydydd sector annibynnol a’r sector cyhoeddus ynghyd, gyda’r dinesydd a’r gymuned yn y canol, gan ymateb i anghenion y cyhoedd a gan leihau'r galw ar wasanaethau eraill drwy ddull gweithredu sy'n edrych ar y gwasanaeth cyfan a chyd-gynhyrchu.
Yn credu y dylai agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus gael ffocws clir ar leihau’r bwlch gwariant ar ysgolion rhwng Cymru a Lloegr.
Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau cyllid teg er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
57 |
0 |
0 |
57 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
The meeting concluded at 17.38.
The Assembly will sit again at Plenary at 13:30 on Dydd Mercher, 28 Medi 2011